Organisation

Webrecruit

Location

Cardiff

Salary Range

N/A

Contract Type

Full Time

Closing Date

17 April 2023

Job Description

Relationship Officer – Swyddog Perthynas

DEPARTMENT AND SALARY

Department – Sport System
Salary – £32,460.00
Working Hours – 37 hours (consideration will be given to job sharing / reduced hours in line with our flexible working policy)

WHO WE ARE

Sport Wales is the national organisation responsible for developing and promoting sport and physical activity in Wales. ?We are the main adviser on sporting matters to the Welsh Government and are responsible for distributing National Lottery funds.?We aim to not only improve the level of sports participation at grassroots level but also provide our aspiring athletes with the support required to compete successfully on the world stage.

Equality, Diversity & Inclusion is at the heart of everything we do at Sport Wales. Further information on this can be found in our Equality, Diversity & Inclusion Statement.

We are a progressive employer that offers excellent employee benefits and promotes a healthy work life balance, offering a range of flexible approaches to support you.

Language skills (bilingualism & multilingualism) are desirable characteristics across all roles within Sport Wales. We are passionate about promoting the use of Welsh language and, as part of our development programme, give everyone the opportunity to learn Welsh if they wish to do so, offering learning programmes from beginner right through to fluent.

Sport Wales embraces a blended approach to work, where you will be able to split your time between the office and home to best suit your personal circumstances.

To find out what it’s like to work with us at Sport Wales please watch the video on our careers page.

HOW YOU’LL CONTRIBUTE

This is an exciting opportunity to make a significant impact to Sport in Wales. This role is pivotal in supporting the transition to five new Regional Sport Partnerships across Wales and in doing this you will provide project management support as well as providing support to Local Authorities and other delivery partners to ensure a smooth transition.

You will work closely with the Relationship Management Team to support a range of partners from Regional Sports Partnerships, Local Authorities and National Governing Bodies of sport, providing opportunities for collaboration wherever possible.

You will develop and maintain excellent, trusted relationships with senior leaders to support, develop and challenge strategic ambitions and drive transformational change, culture change and continuous improvement.

WHAT YOU’LL NEED

We are looking for candidates who can support the management of change and has good project management skills. Being able to build highly effective relationships is pivotal along with an appetite and passion for supporting transformational change.

The role requires someone that champions the concept of collaboration, being able to seek out and facilitate any opportunities for collaboration amongst partners.

You will need to be efficient, manage multiple areas of work and have the ability to create a good and positive working environment, deal effectively with issues and problems; motivating, encouraging and challenging your colleagues

The ability to speak Welsh is desirable, although not essential. If you have the presence and personality to work in a high performing team as well as the passion and drive to succeed, then we would love to hear from you.

WHAT HAPPENS NEXT

You should read the full job description.

You can apply for this role now.

CLOSING DATE

17/4/2023

PROVISIONAL INTERVIEW DATE

28/4/2023

This vacancy is being advertised by Webrecruit. The services advertised by Webrecruit are those of an Employment Agency.

Swyddog Perthynas

ADRAN A CHYFLOG

Adran – System Chwaraeon
Cyflog – £32,460.00
Oriau Gwaith – 37 awr (bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i rannu swydd / gweithio llai o oriau yn unol â’n polisi gweithio hyblyg)

PWY YDYM NI

Chwaraeon Cymru yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu a hybu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru. Ni yw prif gynghorwr Llywodraeth Cymru ar bob mater yn ymwneud â chwaraeon ac rydym yn gyfrifol am ddosbarthu cyllid y Loteri Genedlaethol. Ein nod ni yw nid yn unig gwella lefel y cymryd rhan mewn chwaraeon ar lawr gwlad, ond hefyd darparu i’n hathletwyr addawol y gefnogaeth ofynnol i gystadlu’n llwyddiannus ar lwyfan y byd.

Mae Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant wrth wraidd popeth rydym yn ei wneud yn Chwaraeon Cymru. Ceir rhagor o wybodaeth am hyn yn ein Datganiad Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.

Rydym yn gyflogwr blaengar sy’n cynnig buddion rhagorol i gyflogeion ac yn hyrwyddo cydbwysedd bywyd a gwaith iach, gan gynnig amrywiaeth o ddulliau hyblyg i’ch cefnogi.

Mae sgiliau iaith (dwyieithrwydd ac amlieithrwydd) yn nodweddion dymunol ar draws pob rôl yn Chwaraeon Cymru. Rydym yn teimlo’n angerddol am hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg ac, fel rhan o’n rhaglen ddatblygu, rydym yn rhoi cyfle i bawb ddysgu Cymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny, gan gynnig rhaglenni dysgu o lefel dechreuwr hyd at lefel rhugl.

Mae Chwaraeon Cymru yn cofleidio dull cyfun o weithio a byddwch yn gallu rhannu eich amser rhwng y swyddfa a’r cartref i weddu i’ch amgylchiadau personol.

I gael gwybod sut brofiad yw gweithio gyda ni yn Chwaraeon Cymru gwyliwch y fideo ar ein tudalen gyrfaoedd.

SUT BYDDWCH YN CYFRANNU

Mae hwn yn gyfle cyffrous i gael effaith sylweddol ar Chwaraeon yng Nghymru. Dyma rôl allweddol i gefnogi’r pontio i bum Partneriaeth Chwaraeon Ranbarthol newydd ledled Cymru a thrwy wneud hyn byddwch yn darparu cefnogaeth rheoli prosiectau yn ogystal â darparu cefnogaeth i Awdurdodau Lleol a phartneriaid cyflawni eraill i sicrhau pontio llyfn.

Byddwch yn gweithio’n agos gyda’r Tîm Rheoli Perthnasoedd i gefnogi ystod o bartneriaid o Bartneriaethau Chwaraeon Rhanbarthol, Awdurdodau Lleol a Chyrff Rheoli Chwaraeon Cenedlaethol, gan ddarparu cyfleoedd ar gyfer cydweithio lle bo modd.

Byddwch yn datblygu ac yn cynnal perthnasoedd rhagorol a dibynadwy gydag uwch arweinwyr i gefnogi, datblygu a herio uchelgeisiau strategol a chreu newid trawsffurfiol, newid diwylliant a gwelliant parhaus.

BETH FYDD ARNOCH EI ANGEN

Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sy’n gallu cefnogi’r gwaith o reoli newid ac sydd â sgiliau rheoli prosiectau da. Mae gallu meithrin perthnasoedd hynod effeithiol yn allweddol, yn ogystal â dyhead ac angerdd dros gefnogi newid mawr.

Mae’r rôl yn gofyn am rywun sy’n hyrwyddo’r cysyniad o gydweithio, ac sy’n gallu chwilio am a hwyluso unrhyw gyfleoedd ar gyfer cydweithredu ymhlith partneriaid.

Bydd rhaid i chi fod yn effeithlon, rheoli sawl maes gwaith a gallu creu amgylchedd gwaith da a phositif, gan ddelio’n effeithiol gyda materion a phroblemau, a chymell, annog a herio eich cydweithwyr.

Mae gallu siarad Cymraeg yn ddymunol, ond nid yw’n hanfodol. Os oes gennych chi bresenoldeb a phersonoliaeth i weithio mewn tîm perfformiad uchel a hefyd angerdd a dyhead i lwyddo, byddem yn hoff iawn o glywed gennych chi.

BETH SY’N DIGWYDD NESAF

Dylech ddarllen y disgrifiad swydd llawn.

Gallwch wneud cais am y rôl yma nawr.

DYDDIAD CAU

17/4/2023

DYDDIAD DROS DRO Y CYFWELIAD

28/4/2023

Mae’r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Y gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit yw rhai Asiantaeth Gyflogaeth.

To Apply

APPLY HERE – https://app.webrecruit.co/JobSeeker/ApplyOnline?jobid=104508&boardid=1890